Rhandir Caravan Park

Maes Carafannau Abersoch

Yn edrych dros bentref Abersoch ac wedi’i leoli tua milltir o’r harbwr, mae Parc Carafannau Rhandir. Mae’n safle delfrydol i fwynhau harddwch naturiol eithriadol Pen Llŷn ac amrywiaeth eang o weithgareddau awyr agored.

Mae traethau tywodlyd gwych, chwaraeon dŵr a chyfleusterau hwylio yn yr ardal, yn ogystal â thri chwrs golff rhagorol – oll o fewn deng milltir i Rhandir.

Wedi’i amgylchynu gan dros 100 erw o dir fferm, mae Rhandir yn faes carafannau tawel, wedi’i gynnal a’i gadw yn dda, ac yn addas i deuluoedd sydd eisiau gwyliau tawel.

Mae’r safle yn cynnwys 62 o garafannau preifat ar hyd saith rhes, ynghyd â chae chwarae mawr i blant a chae i gerdded cŵn. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys golchdy a man storio cychod.

Children playing football at Rhandir Caravan Park

Rhandir Caravan Park

Mae'r parc ar agor o ddechrau mis Mawrth hyd at ddiwedd mis Hydref. Mae un neu ddau o safleoedd ar werth bob blwyddyn. Cysylltwch â G.W. Roberts a’r Partneriaid i drafod argaeledd a sut i brynu carafan ar y safle. Sylwch nad ydym yn delio â rhentu gwyliau.

Parc Carafannau Rhandir – safle gwych ar gyfer mwynhau harddwch naturiol eithriadol Pen Llŷn